Er mai Saesneg fu prif gyfrwng y Gymdeithas yn yr ynysoedd hyn trwy'r blynyddoedd, dylid cydnabod fod rhan o'i bywyd wedi ac yn cael ei fynegi trwy ieithoedd eraill, ac yng Nghymru hefyd trwy'r Gymraeg. Darostyngir traddodiad ein Cymdeithas, ein hanes a'n tystiolaeth os anwybyddir hynny. Yn ddiarwybod bu i rai siaradwyr Cymraeg gael y teimlad iddynt gael eu hymylu. Dylid sicrhau fod y Gymraeg yn cael ei phriod le yng ngwaith a gweithgareddau'r Cyfarfod Blynyddol yng Nghymru.
Cyfarfod Dwyfor, 1994
Next: 10.15